Mae FOCUS Wales yn falch o gyhoeddi digwyddiad arddangos a chynhadledd ddigidol newydd sbon sydd wedi’u drefnu ar gyfer Medi 21ain – 26ain, 2020, sef Cynhadledd Ddigidol Out of FOCUS, y gyntaf o’i mhath.
Yn y gyntaf o gyfres o ddigwyddiadau ar-lein (gyda mwy i’w cyhoeddi dros y misoedd nesaf), fe fydd y digwyddiad arddangos rhithiol hwn yn cynnwys sgyriau panel, a phrif sesiynau, gyda gweithwyr proffesynol a gwesteion arbennig o’r diwydiant.
Cymrych olwg isod ar yr amserlen a’r siaradwyr cyntaf i’w cyhoeddi. Mwy i ddilyn…
Dydd Llun 21 Medi 2020
Cyflwyniad Undeb y CerddorionDarganfod beth mae Undeb y Cerddorion yn ei gynnig ar hyn o bryd o ran cefnogaeth (ariannol a chyngor), lobïo, ac hefyd pa gefnogaeth arall sydd ar gael ar gyfer cerddorion ar hyn o bryd. 12yp – 12:45yp |
Adeiladu eich strategaeth Rhan 1 – Cynllunio ar gyfer y gwaethaf a gobeithio am y gorau.Beth ydy’r opsiynau ar gyfer cynllunio a datblygu llwybr gyrfa artist o dan yr amgylchiadau presennol? 2:30yp – 3:30yp |
Prif Sesiwn – Holi ac Ateb Gareth EvansYoutuber a sefydlydd Goliath Guitar Tutorials – sianel youtube gyda thros 750,000 o danysgrifwyr – bydd Gareth yn esbonio sut y llwyddodd i droi ei sgìl fel cerddor yn fusnes byd-eang ar-lein. 4yp – 4:45yp |
Sgwrsio gyda DIRECT INPUTCyfres weminar Future Yard ydy Direct Input, sy’n anelu at godi caead ar y technegau a’r tactegau a ddefnyddir gan y timau sy’n gyfrifol am rai o artistiaid mwyaf llwyddiannus ein cyfnod. 6yp – 7yp |
Dydd Mawrth 22 Medi 2020
Y Cyfryngau Cerddoriaeth – Dyfodol y cyfryngau cerddoriaethBydd ein panel o arbenigwyr yn trafod yr heriau sy’n wynebu’r cyfryngau cerddoriaeth ar hyn o bryd a sut olwg fydd ar y dyfodol. 1yp – 1:45yp |
Adeiladu eich strategaeth Rhan 2 – DigidolLlwyfannau: Beth sy’n newydd a sut i wneud y defnydd gorau. Mwy nag erioed, mae hi’n hanfodol i artistiaid gael yr wybodaeth a’r rheolaeth ddiweddaraf o’r llwyfannau ar-lein diweddaraf sydd ar gael a sut i gael y gorau allan ohonyn nhw. 2:30yp – 3:30yp |
Prif sesiwn – Dave StewartYr artist, cyfansoddwr a chynhyrchydd byd-eang, adnabyddus a sefydlydd Eurythmics: Dave Stewart a Trackd yn trafod Cydweithredu Cerddorol o Bell yn oes y rhyngrwyd. Prif sesiwn yn archwilio’r dulliau o gyfansoddi caneuon, cydweithredu a recordio. 4yp – 4:45yp |
Magu Plant a CherddoriaethTrafod y ffyrdd y mae cerddorion yn cydbwyso magu plant gyda’u gyrfaoedd, a sut mae’r cyfnod clo wedi effeithio ar y cydbwyso hwn. 5yp – 6yp |
Dydd Mercher 23 Medi 2020
Clinig AriannuYr wybodaeth ddiweddaraf ar ba gyllid a chefnogaeth sydd ar gael i’r rhai sy’n creu cerddoriaeth a’r diwydiant cerdd ehangach yng Nghymru. 1yp – 1:45yp |
Cadw Golwg ar Iechyd MeddwlMusic Minds Matter yn arwain sgwrs grŵp anffurfiol yn edrych ar ein iechyd meddwl, ac yn rhannu syniadau a chynghorion. 2:30yp – 3:30yp |
Prif sesiwn – Holi ac Ateb Henca MaduroSefydlydd ‘New Skool Rules’, sioe arddangos ryngwladol Hip Hop ac r&b yn Rotterdam. Bydd Henca yn sgwrsio am ei bywyd a’i gyrfa gyda Ffion Wyn (ladies of Rage) 4yp – 4:45yp |
PRS & PPLDarganfyddwch sut i ennill arian o ysgrifennu a pherfformio cerddoriaeth gan gymdeithasau casglu’r DU PPL a PRS for Music. Hefyd cyfle i holi ein harbenigwyr. 5yp – 6yp |
Dydd Iau 24 Medi 2020
Cyflwyniad HMUKSut fedr Help Musicians fy helpu i? 1yp – 1:45yp |
Sector Fyw Gweithredol – Y Ffordd at AdferiadSut mae’r sector fyw wedi ymateb, nid yn unig i Covid-19, ond hefyd i’r problemau fu’n eu hwynebu cyn hynny a sut wnawn ni ei siapio wrth edrych ymlaen? 2:30yp – 3:30yp |
Mynd yn fyd-eang ar y weArchwilio pa effaith y gall Brexit a’r Pandemig eu cael ar allforio cerddoriaeth. 4yp – 4:45yp |
SyncSgwrs gyda Dan Koplowitz o Friendly Fire Licensing, UDA. Popeth sydd angen ichi’i wybod ynghylch dechrau syncio eich cerddoriaeth. 6yp |
Dydd Gwener 25 Medi 2020
Privilege CafeMusic & Race in Wales Sgwrs #5 – @ FOCUS Wales 2021: Out of Focus. Mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd mewn cydweithrediad â Privilege Café 12:30yp – 2:05yp |
Ymarfer, Recordio a Mynd yn FywTrafod yr arferion safonol presennol ar hyd ac ar led stiwdios a lleoedd ymarfer yng Nghymru, a phwysigrwydd cofnodi perfformiadau byw. 2:30yp – 3:30yp |
Arddangos Ar-leinFFOCUS Wales, The Great Escape, Sound City, a Wide Days yn trafod sut y gall artistiaid wneud y gorau o wyliau arddangos, ar-lein ac all-lein. 6yp – 7yp |