Mae pedair o wyliau mwyaf poblogaidd Cymru – Gŵyl y Llais, FOCUS Wales, Lleisiau Eraill Aberteifi a Gŵyl Gomedi Aberystwyth – wedi dod at ei gilydd yn ystod y cyfnod clo i greu Gŵyl 2021; gŵyl ar-lein rhad ac am ddim sy’n cynnwys 3 noson o gerddoriaeth gan 18 o artistiaid o Ganada. Bydd artistiaid a ddewisir gan BreakOut West, M for Montreal, a Nova Scotia Music Week yn perfformio sesiynau byw i’w darlledu ar lwyfan AM Cymru dros yr 8fed, 9fed a’r 10fed o Fawrth, 2021.
Ffeindiwch yr amserlen ar gyfer pob diwrnod, wrth clicio ar y posteri isod.
Sesiynnau Rhwydweithio
Rhwng Mawrth 8fed i’r 10fed, bydd 18 o artistiaid o Gymru yn cydgysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth yng Nghanada trwy gyfrwng cyfres o sesiynau rhwydweithio a datblygu gyrfaoedd. I gael mwy o wybodaeth am y prosiect hwn, dilynwch y ddolen-gyswllt YMA.