Richard Hawley | Gruff Rhys | The Twilight Sad | The Joy Formidable | Tim Burgess | Bob Vylan | Stealing Sheep | Flamingods | Georgia Ruth | Don Letts | Lucy Spraggan | JOHN | Haviah Mighty |The Membranes | Catrin Finch | HENGE | Gallops |
The Breath | The Trials of Cato | Adwaith | Buzzard Buzzard Buzzard | Juice Menace | Accü | Art School Girlfriend |
God Damn | Graeme Park | Nik Colk Void (Factory Floor) + MWY!
Gyda dros 300 o berfformiadau byw, mae’r ŵyl yn arddangos y gorau phosib o’r talent newydd sy’n datblygu o’r genedl hyd yn hyn, ochr wrth ochr ag enwau sefydledig ac amrywiaeth o artistiaid rhyngwladol cyffrous.
Mae FOCUS Wales nôl ac yn digwydd dros 7–9 o Hydref 2021!
Mae FOCUS Wales yn ŵyl rhyngwladol aml lleoliad a gynhelir yn Wrecsam pob blwyddyn, sy'n anelu goleuni'r diwydiant cerddoriaeth heb os ar y doniau newydd sy gan Gymru'n dod i'r amlwg i gynnig i'r byd. Mae FOCUS Wales 2021 yn nodi 10fed blwyddyn yr ŵyl – a bydd y 10fed tro yn croesawu dros 15,000 o bobl i'r dref, gan adeiladu ar record y nifer o fynychwyr yn 2019 ar draws llond penwythnos o ddigwyddiadau. Does unlle'n debyg i Wrecsam yn ystod FOCUS Wales, wrth inni arddangos 250 a mwy o fandiau, llenwi amrywiaeth o lefydd a lleoliadau i gerddoriaeth, gan wneud defnydd o 20 llwyfan, yn ogystal a chynnig sesiynau rhyngweithiol diwydiant cerddoriaeth, ffilm a ddigwyddiadau celfyddydol trwy gydol yr ŵyl.