• Winner of Best Festival for Emerging Talent at UK Festival Awards

  • YR AMGYLCHEDD

    Ein gwaith a’r amgylchedd
    Rydyn ni’n teimlo’n angerddol am ein gwaith datblygu doniau, o ran y cyfleoedd sy’n cael eu creu trwy ein gŵyl flynyddol, yn ogystal â’n gwaith yn rhyngwladol trwy gydol y flwyddyn, lle rydyn ni’n arddangos artistiaid a’r diwydiant mewn marchnadoedd cerddoriaeth newydd ym mhedwar ban byd. Ar yr un pryd, rydyn ni’n ofalgar ac yn ystyriol o effaith amgylcheddol y gwaith rydyn ni’n ymgymryd â fo, gan ddysgu a chymryd camau gweithredol yn barhaol i sicrhau ein bod yn ystyried, lleihau a lleddfu ôl-troed carbon ein gwaith ehangach.

    Er ein bod ni’n cael ein calonogi’n gynyddol o weld ymrwymiadau llawer o lywodraethau’r byd i anelu at deithio awyr gwyrdd dros y ddegawd nesaf – ac all hyn ddim dod yn ddigon sydyn – mae’n rhaid inni fod yn realistig ynglŷn â’r ffaith y bydd artistiaid yn dal i deithio hyd nes y cyflawnir hyn, yn eu hymdrechion i hyrwyddo eu gwaith dramor. Gyda gwyliau arddangos, medrwn wneud y gorau o gyfleoedd i artistiaid, adre a thros y dŵr, gyda gwyliau arddangos a chynadleddau’r diwydiant cerddoriaeth sy’n cael effaith amlwg, yn cael eu cyflenwi trwy digwyddiad unigol, lle, fel arall, fe fyddai artist annibynnol yn ymgymryd â sawl siwrne i gyrraedd yr un lefel o ymgysylltu. Felly, fe wyddon ni o brofiad ac ymchwil helaeth, fod y digwyddiadau rydyn ni’n eu cynnal ac ymwneud â nhw yn lleihau’r angen i artistiaid deithio cymaint, yn hynny o beth. Fodd bynnag, gellir gwneud mwy, ac mae parhau i drafod ac dysgu mewn perthynas â chynaliadwyedd yn beth iach o gofio’r pwnc yma; o’r herwydd, rydyn ni wedi ymgymryd â chyfrifoldeb i weithio gyda, a chynghori ein hartistiaid, cynrychiolwyr a’r mudiadau rydyn ni’n partneru â nhw yn yr agwedd hon, i greu sgyrsiau agored sy’n caniatáu inni gyd i archwilio faint mwy allen ni’i wneud i wella effaith ein gwaith, i ddiogelu ein hamgylchedd, y byd o’n cwmpas, ein cartref.

    Pan ddaw hi at ein gwaith allforio a mewnforio cerddoriaeth newydd – mae gan addysg, a’n cyfrifoldeb ar y cyd, rôl anferth i’w chwarae i leihau’r ôl-troed carbon.
    Un datblygiad cadarnhaol yn ystod y pandemig oedd ein bod wedi datblygu ein rhaglen Out of FOCUS newydd o brosiectau ymgysylltu â’r farchnad ryngwladol ar-lein, sy’n cael ei gyflenwi trwy gydol y flwyddyn, yn cynhyrchu cyfleoedd ymgysylltu rhwng artistiaid â’r diwydiant mewn amrywiol ffurfiau digidol, yn targedu marchnadoedd cerddoriaeth ledled y byd, gyda sesiynau eisoes wedi’u cyflenwi gyda phartneriaid ar draws Gogledd America, Affrica, Asia ac Ewrop. Er nad ydy’r gwaith yma, ar y cyfan, yn delio’n wyneb yn wyneb â’r cyhoedd, mae hi, fodd bynnag, yn arwyddocaol, ac mae’n cael effaith bositif, gan gyflwyno cyfle arwyddocaol i ddatblygu gyrfaoedd, ac yn cael ei gyflwyno’n gyfan gwbl ar-lein. Profwyd eisoes ei fod wedi cyflymu llwybrau gyrfaoedd artistiaid sy’n cyfranogi ac, yn y pen draw, yn lleihau’r teithio y byddai artistiaid wedi’i wneud fel arall er mwyn cyflawni eu hamcanion yn annibynnol. Yn ystod ei 12 mis cyntaf, fel canlyniad uniongyrchol y gwaith hwn, fe welwyd artistiaid yn sicrhau cytundebau recordio, rheolwyr, a chysylltu ag asiantiaid ac threfnwyr archebion. Mae canlyniad y gwaith hwn yn golygu, yn y pen draw, fod yr artistiaid wedi’u paratoi’n well i fynd i’r afael ag unrhyw gyfleoedd arddangos rhyngwladol a alla ddod i’w rhan, a hynny cyn hyd yn oed gamu ar awyren, gan wneud y gorau o’r cyfle ym mhob ystyr.

    Lle bo teithio yn y cwestiwn, rydyn ni’n ymgynghori ag artistiaid a’r diwydiant i archwilio gwahanol ffyrdd o leihau eu hôl-troed carbon. Mae enghreifftiau i hyn yn cynnwys:
    · Os oes gan artistiaid amrywiaeth o drefniannau byw, a oes modd iddyn nhw arddangos gyda llai o gerddorion, gan leihau’r anghenion teithio?
    · rydyn ni’n cynghori defnyddio criw a pheirianwyr sain lleol
    · rydyn ni’n cynghori’r defnydd o offer, offerynnau a chynhyrchiad lleol, lle bo hynny’n bosib
    · rydyn ni’n cynghori’r defnydd o gyflenwyr lleol ar gyfer derbyniadau a’r holl letygarwch
    · rydyn ni’n cynghori artistiaid a’r diwydiant i ystyried dulliau glanach o deithio, lle bo hynny’n ymarferol
    – er enghraifft, mae artistiaid a chynrychiolwyr yn teithio aton ni ar y trên o Ewrop pob blwyddyn
    · ystyried lleoli unrhyw deithio ychwanegol o amgylch y cyfle arddangos, lle bo’n bosib
    – er enghraifft, mae ein digwyddiad yn eistedd yn gyfleus yng nghalendr digwyddiadau’r DU gyda dau ddigwyddiad arall y diwydiant cerddoriaeth, wythnos y naill ochr i’n gŵyl ni, sef Sound City Lerpwl yr wythnos gynt a The Great Escape yn Brighton y penwythnos wedyn. Nid cyd-ddigwyddiad ydy hwn – rydyn ni’n annog ein gwahoddedigion rhyngwladol i wneud y gorau o’u taith draw trwy fynychu hefyd o leiaf un a’r ddau ddigwyddiad arall yma, gan gynyddu’r tebygolrwydd o gyflawni eu hamcanion a lleihau eu teithio yn yr hirdymor.
    · Os nad ydy teithio ychwanegol yn bosib, ac mae hedfan ydy’r unig ddull ymarferol o deithio – er, efallai, y gall weithio allan ychydig yn fwy costus – rydyn ni’n cynghori hedfan yn uniongyrchol, dan yr amgylchiadau hynny.
    · rydyn ni’n cynghori pawb i ystyried mentrau megis ZeroSmart fel un enghraifft – plannu coed i wrthbwyso eu heffaith amgylcheddol.

    Mae ein profiad helaeth o’r diwydiant cerddoriaeth, a chyfansoddiad strategaethau cyffredin allforio artistiaid, yn dweud wrthon ni, wrth weithio at strategaeth allforio sydd wedi cael ystyriaeth gofalus, sy’n ymwneud â’r cyfleoedd arddangos amlwg eu heffaith a drefnir ganddon ni, yma ac ar draws gwahanol farchnadoedd byd-eang, ac sy’n cynnwys proses ymgynghori gyda phawb sy’n cyfranogi, gyda chynaliadwyedd amgylcheddol mewn golwg, y gwyddon ni mai’r effaith go iawn ydy ein bod yn haneru faint o deithio y byddai artistiaid sy’n cymryd rhan a’r diwydiant wedi’u wneud fel arall yn annibynnol er mwyn cyrraedd eu hamcanion. Felly, mae ganddon ni rôl bwysig i’w chwarae, ac mae’n un rydyn ni’n ei gymryd o ddifrif.

    Rydyn ni croesawu syniadau ar argymhellion newydd
    Rydyn ni’n mewn trafodaethau parhaus gyda’n llywodraeth, a chyrff ymgynghorol eraill, i sicrhau fod arferion gorau’n cael eu gweithredu yn ein gwaith, a’u bod yn cael eu gwella’n gyson. Mae ein drws yn agored. Rydyn ni’n croesawu syniadau newydd y byddai’n bosib eu hymgorffori yn ein gwaith, wneud yr hyn a wnawn yn gynaliadwy yn amgylcheddol wrth symud ymlaen. Os oes ganddoch chi unrhyw argymhellion o’r fath, cysylltwch â ni trwy info@focuswales.com i drafod eich syniadau ymhellach.

    Cofion gorau

    Tîm FOCUS Wales