
‘One of the UK’s best festivals – showcase or otherwise’
Gigwise
CYSYLLTWCH Â NI - #focuswales2023
Cadwch mewn cysylltiad â phopeth yn ymwneud â FOCUS Wales




YMUNO â'n RHESTR BOSTIO
FOCUS Wales 2023
Mae FOCUS Wales nôl ac yn digwydd dros 4–6 o Mai 2023!
Mae FOCUS Wales yn ŵyl rhyngwladol aml lleoliad a gynhelir yn Wrecsam pob blwyddyn, sy'n anelu goleuni'r diwydiant cerddoriaeth heb os ar y doniau newydd sy gan Gymru'n dod i'r amlwg i gynnig i'r byd. Mae FOCUS Wales 2023 yn nodi 12fed blwyddyn yr ŵyl – a bydd y 12fed tro yn croesawu dros 20,000 o bobl i'r dref, gan adeiladu ar record y nifer o fynychwyr yn 2022 ar draws llond penwythnos o ddigwyddiadau. Does unlle'n debyg i Wrecsam yn ystod FOCUS Wales, wrth inni arddangos 250 a mwy o fandiau, llenwi amrywiaeth o lefydd a lleoliadau i gerddoriaeth, gan wneud defnydd o 20 llwyfan, yn ogystal a chynnig sesiynau rhyngweithiol diwydiant cerddoriaeth, ffilm a ddigwyddiadau celfyddydol trwy gydol yr ŵyl.