• ‘an incredible international showcase’

    CLASH Magazine
  • Global Music Match (CYM)

    logo_versions

    Lluniwyd mewn cydweithrediad cyntaf o’i fath yn y byd rhwng y partneriaid sefydlol Showcase Scotland Expo, Sounds Australia a’r East Coast Music Association (ECMA), ynghyd â sefydliadau allforio a digwyddiadau arddangos ledled y byd. Menter ydy Global Music Match a luniwyd i barhau i godi proffil artistiaid lleol mewn marchnadoedd cerddoriaeth ryngwladol o fewn cyfyngiadau heriol pandemig COVID-19.

    Mae’r rhaglen yn ymateb unigryw i’r cyfyngiadau a osodwyd ar y diwydiant cerddoriaeth, sy’n gwneud defnydd o’r unig lwyfan sydd ar gael – y cyfryngau cymdeithasol a chydweithrediad rhwng cyfoeswyr – i gynyddu rhwydweithiau ac allforio artistiaid i sylw’r byd.


    AM GLOBAL MUSIC MATCH

    Beth ydy Global Music Match?

    Rhwydwaith ydy GMM i hyrwyddo artistiaid mewn tiriogaethau newydd, datblygu sgiliau’r cyfryngau cymdeithasol a rhyngweithio, tyfu cynulleidfaoedd a chysylltu cerddorion yn fyd-eang.

    Sut mae’n gweithio

    Bydd hyn yn cael ei gydgyfnewid rhwng pawb sy’n cymryd rhan, gan olygu y caiff artistiaid sy’n cymryd rhan eu cyflwyno trwy’r rhywdweithiau cymdeithasol i gynulleidfaoedd ar-lein rhyngwaldol yr artistiaid eraill sy’n cyfranogi. Bydd hyd at chwech o artistiaid o mGymru’n cael eu dewis a’u gosod mewn grwpiau. Bydd pob grŵp yn cynnwys 6 artist, un o Gymru a phump o bum gwlad arall. Bydd y fenter yn rhedeg am 8 wythnos, gan ddechrau ar Awst 10fed ac yn dod i ben ar Fedi 28ain. Bydd y pythefnod gyntaf yn ymwneud â pharatoiar gyfer cyflwyno Global Music Match ar Awst 24ain ac yn cynnwys cymorth gyda hyfforddiant ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol (os bydd angen), paratoi asedau (gan gynnwys help gyda’ch cynnwys fideo), yn ogystal â gweminarau ayyb am bob un o’r gwledydd, wedi’i anelu at wneud y gorau o gynnwys eich postiad ar gyfer y cenhedloedd rheini a’ch helpu hefyd gyda gwybodaeth am deithio yno.

    Beth ydy’r nod?

    Mae cyflwyno artistiaid i diriogaeth new wlad newydd yn broses heriol, sydd wedi’i gymhlethu ymhellach fel canlyniad i’r pandemig wrth i gyfleoedd traddodiadol i arddangos yn rhyngwladol leihau. Mae’r rhaglen hon yn anelu at ddatblygu cynulleidfaoedd newydd ar gyfer artistiaid mewn ystod o leoliadau rhyngwladol, gan greu seiliau i ddatblygu teithio rhyngwladol yn y dyfodol. Bydd y rhaglen hefyd yn cefnogi artistiaid sy’n cymryd rhan i uwchraddio eu gweithgaredda r y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal ag annog cydweithrediad trawsffiniol rhwng artistiaid.

    Sut all cerddorion gymryd rhan?

    Darllenwch yr arweiniad a chwblhau’r ffurflen gais isod erbyn 5yp ar ddydd Gwener, Gorffennaf 24ain, 2020.

    Pa wledydd eraill sydd ynghlwm â hyn?

    Mae Global Music Match yn cael cefnogaeth nifer o sefydliadau allforio gan gynnwysShowcase Scotland Expo, Sounds Australia, ECMA Canada, English Folk Expo, Music Finland, Iceland Music, Puglia Sounds (Yr Eidal), Music Norway, LUCfest Taiwan a FOCUS Wales.

    A fydda i’n cael cefnogaeth trwy gydol y fenter?

    Byddwch, fe fyddwch yn derbyn cefnogaeth. Fe fydd gan bob grŵp 6 artist hyfforddwr tîm a fydd yno i helpu pob un o’r 6 artist trwy’r broses. Yn ychwanegol at hyn, fe fydd FOCUS Wales yn cynorthwyo’r artistiaid o Gymru trwy gydol y broses.

    Mae’r ceisiadau ar gau


    CYFARWYDDYD

    1. Rhaid i artistiaid fod wedi’u gwreiddio yng ngherddoriaeth acwstig, gwerin, craidd, Cymraeg, traddodiadol neu fyd-eang.
    2. Bydd gan artistiaid dystiolaeth dangosadwy o berfformio yn y DU, gan gynnwys e.e. adolygiadau byw, perfformiadau mewn gwyliau a lleoliadau.
    3. Rhaid i artistiaid allu dangos y gallu i wneud y gorau o’r cyfleoedd hyrwyddol mae FOCUS Wales yn eu cynnig, e.e. presenoldeb amlwg ar y we a’r rhwydweithiau cymdeithaso, rhestrau postio credadwy, deunydd hyrwyddo ar gyfer y digwyddiad, ffilm EPK/byw ar gael.
    4. Rhaid i artistiaid allu esbonio eu rhesymau dros wneud cais a’r perthnasedd i’w gyrfaoedd.
    5. Rhaid eu bod yn fodlon ymgymryd â gweithgaredd gyda’r wasg, gan gynnwys cyfweliadau, yn ôl y galw.
    6. Rhaid i artistiaid allu darparu mynediad i ddolenni ffrydio. Mae ffilm fideo sydd eisoes ar gael yn debygol o gynyddu sianws yr artist o gael eu dewis.
    7. Bydd gofyn cael tystiolaeth o ddiddordeb neu gefnogaeth ryngwladol blaenorol.
    8. Rhaid i artistiaid gytuno i ymwneud â’r fenter am y cyfnod cyfan ac os ydych yn fand, rhaid i HOLL aelodau’r band gytuno i gymryd rhan.
    9. Rhaid i artistiaid gytuno i ddim llai na 3 postiad yr wythnos ar gyfer y pum aelod arall o’r tîm (bydd yr un cynnig yn cael ei wneud i chithau gan y bum aelod arall) – rhaid i un o’r rhain fod yn gyfweliad. Rhaid io bob postiad tagio Global Music Match a’r artistiaid eraill sy’n cymryd rhan.
    10. Rhaid i artistiaid gytuno i ddarparu gwybodaeth gwerthuso yn ôl y galw gan FOCUS Wales; bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth ynghylch cynnydd yn ystadegau’r cyfryngau cymdeithasol fel canlyniad i’r cymryd rhan.
    11. Rhaid i artistiaid fod yn byw yng Nghymru.
    12. Ceisiadau i’w derbyn erbyn 5yp ar ddydd Gwener, Gorffennaf 24ain, 2020.
    13. Trwy gwblhau’r cais yma, rydych yn cytuno mai chi ydy perchennog y perfformiad neu, os nad chi ydy’r perchennog, fod ganddoch chi ganiatâd y perchennog ar gyfer y ffrydiad hwn gan FOCUS Wales, Global Music Match a’r artistiaid rhyngwladol a’r asiantaethau allforio sydd ynghlwm â hyn.


    Cwestiynau Cyffredin

    Beth ydy’r ymrwymiad i artistiaid?

    Pob wythnos, fe fydd gofyn ichi:
    – cyhoeddi 3 post ar bob un o brif lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol am 5 wythnos ar ôl ei gilydd
    – cymryd rhan mewn cyfarfod Zoom awr o hyd gyda’ch tîm
    – creu cynnwys i’w rannu ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r artistiaid eraill yn eich tîm (h.y. cyfweliad Zoom, cyflwyniad i gamera, cynnwys graffig neu arall)

    Pam faswn i’n cymryd rhan?

    – Tyfu eich cynulleidfaoedd mewn 5 tiriogaeth dramor fel paratoad ar gyfer teithio rhyngwladol yn y dyfodol
    -Datblygu eich sgiliau’n ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol
    -Darganfod cerddoriaeth wych
    – Rhwydweithio gyda bandiau ledled y byd, gan greu cyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol
    – Creu cynnwys newydd er mwyn ymgysylltu â’ch cefnogwyr
    – Cael bod yn rhan o brosiect ryngwladol o bwys gyda sefydliadau allforio cerddoriaeth ledled y byd

    Sut gaiff yr artistiaid eu dewis?

    Bydd artistiaid o Gymru’n cael eu dewis gan FOCUS Wales, yn seiliedig ar ansawdd cerddoriaeth, maint y gynulleidfa i’w chyrraedd a pharodrwydd i allforio. Bydd artistiaid eraill sy’n cymryd rhan yn cael eu dewis yn ôl meini prawf tebyg.

    Sut gaiff yr artistiaid eu cydweddu?

    Bydd pob gwlad yn cyflwyno rhwng chwech a deuddeg artist i’w cynnwys yn y rhaglen. Bydd yr artistiaid yn cael eu cydweddu gan y sefydliadau allforio sy’n cymryd rhan yn seiliedig ar faint cynulleidfa, math o gerddoriaeth a’u parodrwydd i fentro i diriogaethau newydd. Caiff artistiaid eu gosod mewn timau o 6 gydag un hyfforddwr rhyngwladol. Bydd wastad elfen o siawns ynghlwm â chydweddu timau ac fe ddylai artistiaid sy’n cymryd rhan fod yn ymwybodol na fydd ganddyn nhw unrhyw ran yn y dewis o artistiaid yn eich tîm.

    Beth sy’n digwydd os nad ydw i’n meddwl y bydd fy nghynulleidfaoedd yn hoffi’r gerddoriaeth dwi’n ei rhannu?
    Bydd gan bob artist isafswm o gynulleidfa i’w chyrraedd?

    Nid o reidrwydd. Bydd gan rai o’r gwledydd a’r tiriogaethau sy’n cymryd rhan ddulliau gwahanol o ran y ffordd maen nhw’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer eu cerddoriaeth. Bydd GMM yn darparu arweiniad i bob artist sy’n cymryd rhan at farchnad gerddoriaeth pob tiriogaeth. Fodd bynnag, mae pob sefydliad allforio sy’n cymryd rhan wedi ymrwymo i gael hyd i artistiaid sydd â phroffil ac ymgysylltiad digonol i greu’r cyfle i ddatblygu cynulleidfa. Mae hyn yn golygu y bydd gan bob artist sy’n cymryd rhan, gynulleidfa genedlaethol gref ac â’r gallu i gynnig ffyrdd uniongyrchol i artistiaid eraill gyrraedd eu tiriogaethau cynhenid.