AMDANOM NI

Mae FFocws Cymru yn Ŵyl Gerdd a Chynhadledd 3 diwrnod a gynhelir mewn lleoliadau amrywiol yn Wrecsam, Gogledd-ddwyrain Cymru, dros benwythnos Ebrill 19eg, 20fed a’r 21ain, 2012.

Bydd yr Ŵyl yn arddangos perfformiadau byw gan gasgliad o’r gerddoriaeth orau o wreiddiau Cymreig trwy gydol y penwythnos, gan gynnwys prif gyfraniadau gan westeion arbennig ac artistiaid Rhyngwladol dethol - ochr yn ochr â phaneli a thrafodaethau'r diwydiant cerddoriaeth, yn cynnwys arbenigwyr a bob adran o’r diwydiant cerddoriaeth.

Hanes

FFocws Cymru 2011 oedd ein digwyddiad agoriadol, a gynhaliwyd yn Wrecsam, Gogledd-ddwyrain Cymru ym Mai 2011. Yn gynwysedig yng ngŵyl 2011 roedd trafodaethau cynhadledd gyda chynrychiolwyr o PRS for Music, Radio BBC a’r wasg gerddoriaeth yn ogystal ag arddangos cerddoriaeth newydd di-baid trwy gydol y penwythnos gan 40+ o berfformwyr ar 3 llwyfan , yn cynnwys: John Lawrence (gynt o Gorky’s Zygotic Mynci), The Roseville Band, Paper Aeroplanes, Camera, Bright Light Bright Light, Andy Hickie & The Merry Maidens, The Gentle Good, a llawer mwy, rhai ohonyn nhw’n cael eu recordio gan Radio BBC. Hefyd yn perfformio roedd yr artistiaid rhyngwladol ‘I’m Kingfisher’ o Malmo, Sweden, ac ‘Aerials Up’ o Glaschu/Glasgow, Yr Alban.